Chief Executive Officer, Betsi Cadwaladr University Health Board

Chief Executive Officer, Betsi Cadwaladr University Health Board

Wales

The role of CEO at Betsi Cadwaladr University Health Board (BCUHB) is a unique opportunity for an outstanding leader whose personal values, strategic vision and excellent track record of delivery can positively impact the health and wellbeing of the people of North Wales.

As Wales’ largest Health Board with 19,000 staff, BCUHB serves a population of 700,000 across a stunning landscape that includes the breath-taking mountains of Snowdonia and a coastline that is home to some of the best beaches in the world.

As a fully integrated healthcare organisation, BCUHB has a critically important job - to support the people of North Wales to improve their health and well-being, and to care for them when they are sick, or need medical support and help. Our staff are a part of their local communities. They work across 120 GP practices, 17 community hospitals, and three district general hospitals and give their energies every day to support their neighbours, families and the people who live and work alongside them.

Mae rôl Prif Swyddog Gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn gyfle unigryw i arweinydd rhagorol y gall ei werthoedd personol, gweledigaeth strategol a phrofiad ardderchog o sicrhau canlyniadau gael effaith bositif ar iechyd a lles pobl Gogledd Cymru.

Fel y Bwrdd Iechyd mwyaf yng Nghymru gyda 19,000 o staff, mae BIPBC yn gwasanaethu poblogaeth o 700,000 ar draws tirwedd odidog sy'n cynnwys mynyddoedd trawiadol Eryri ac arfordir sy'n gartref i rai o'r traethau gorau yn y byd. Mae cymunedau, sy'n rhai trefol a gwledig, a diwylliant llewyrchus a chyd-destun dwyieithog wrth wraidd ein rhanbarth.

Fel sefydliad gofal iechyd cwbl integredig, mae gan BIPBC rôl hollbwysig - cynorthwyo pobl Gogledd Cymru i wella eu hiechyd a'u lles, a gofalu amdanynt pan fyddant yn sâl, neu pan fydd angen cymorth meddygol a help arnynt. Mae ein staff yn rhan o'u cymunedau lleol. Maent yn gweithio ar draws 97 o bractisau meddygon teulu, 17 o ysbytai cymunedol, a thri ysbyty cyffredinol dosbarth ac maent yn rhoi o'u hegni bob dydd i gefnogi eu cymdogion, eu teuluoedd a'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ochr yn ochr â nhw.

 
  • We are the largest health organisation in Wales, with a budget of £1.87 billion and a workforce of over 19,000. The Health Board is responsible for the delivery of health care services to more than 700,000 people across the six counties of north Wales (Anglesey, Gwynedd, Conwy, Denbighshire, Flintshire and Wrexham). The Health Board coordinates the work of 120 GP practices, and NHS services provided by 83 dental and orthodontic practices, 69 optometry practices and opticians and 147 pharmacies in North Wales.

    Ni ydy'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru. Mae ein cyllideb yn £1.87 biliwn ac mae gennym ni dros 19,000 o staff. Rydym yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer mwy na 700,000 o bobl ar draws chwe sir gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydlynu gwaith 96 o bractisau meddygon teulu, a gwasanaethau'r GIG sy'n cael eu darparu gan 83 o bractisau deintyddol ac orthodonteg, 69 o bractisau optometreg ac optegwyr a 147 o fferyllfeydd yng ngogledd Cymru.

  • Welcome from Dyfed Edwards, Interim Chair

    Thank you for considering the Chief Executive role at Betsi Cadwaladr University Health Board (BCUHB). We are ambitious for change, and are looking for an outstanding leader whose personal values, strategic vision and excellent track record can positively impact the health and well-being of the people of North Wales. The Health Board has a complex history and requires an exceptional person to lead it through a difficult and challenging time. It needs a CEO who can inspire, motivate and guide the executive team, clinical and managerial leaders and their staff to be the best they can be so that together they can thrive in a culture and ethos that delivers the best outcomes for patients. We fully embrace partnership working as this will enable the progress we need in improving wellbeing, improving patient outcomes and the experiences of our staff and the people we support.

    Our partners have really embraced the integrated system working concept, and we have got some fantastic relationships and a real sense of collaboration and teamwork across the integrated health system. Equally, our education partners across North Wales are committed to working with us to achieve our ambition to be an Employer of Choice and a leader in developing and providing excellent education and learning opportunities. This is supported by a number of key initiatives, including the development of an inter-professional Medical and Health Sciences School in partnership with Bangor University. Working together to achieve common goals for our population is at the heart of our operating model.

    It is an exciting time to work in this system as we continue to strengthen our leadership teams through recruitment to our new operating model. We are committed to embedding a compassionate and learning culture underpinned by an evidence-based improvement system and, as such, welcome colleagues with an improvement background and philosophy.

    North Wales is a fantastic place to live, learn and work. I hope that you enjoy finding out more about BCUHB and its local area of beautiful coastline and landscapes, recreation and adventure inside this briefing pack. I would be delighted to have a further conversation with you about this critical role, and thank you once again for your interest. We are building something here that is going to really help our health and care system and to support our local population to get better health outcomes. It really is an exciting time to consider joining us.

    Dyfed Edwards, Chair

    Croeso gan Dyfed Edwards, Cadeirydd Dros Dro

    Diolch am ystyried rôl Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae newid yn uchelgais i ni, ac rydym yn dymuno penodi arweinydd rhagorol y gall ei werthoedd personol, ei weledigaeth strategol a’i hanes rhagorol effeithio’n gadarnhaol ar iechyd a lles pobl Gogledd Cymru. Mae gan y Bwrdd Iechyd hanes cymhleth ac mae angen unigolyn eithriadol i'w arwain trwy gyfnod anodd a heriol. Mae angen Prif Swyddog Gweithredol arno a all ysbrydoli, ysgogi ac arwain y tîm gweithredol, arweinwyr clinigol a rheolaethol a’u staff i fod ar eu gorau posibl fel y gallant ffynnu mewn diwylliant ac ethos sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion.

    Rydym yn frwd dros weithio mewn partneriaeth gan ein bod yn gwybod mai dyma'r ffordd i ni wneud cynnydd o ran gwella lles, gwella canlyniadau i gleifion a phrofiadau ein staff a'r unigolion rydym yn eu cynorthwyo. Mae ein partneriaid wedi croesawu'r cysyniad o weithio mewn system integredig ac mae gennym ni berthnasoedd gwych ac ymdeimlad gwirioneddol o gydweithredu a chydweithio mewn timau ar hyd a lled y system iechyd integredig. Yn yr un modd, mae ein partneriaid ym myd addysg ar draws Gogledd Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda ni i gyflawni ein huchelgais i fod yn Gyflogwr o Ddewis, ac yn arweinydd o ran datblygu a darparu addysg a chyfleoedd dysgu rhagorol. Cefnogir hyn gan nifer o ddatblygiadau allweddol, yn enwedig datblygu'r Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd rhyngbroffesiynol mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor. Mae gweithio gyda'n gilydd i gyflawni amcanion cyffredin ar gyfer ein poblogaeth wrth wraidd ein model gweithredu.

    Mae'n amser cyffrous i weithio yn y system hon wrth i ni barhau i gryfhau ein timau arwain drwy recriwtio i'n model gweithredu newydd. Rydym wedi ymrwymo i wreiddio diwylliant tosturiol a dysgu wedi’i ategu gan system wella sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac, felly, yn croesawu cydweithwyr sydd â chefndir ac athroniaeth o wella.

    Mae Gogledd Cymru yn lle gwych i fyw, i ddysgu ac i weithio. Gobeithio y byddwch yn mwynhau darganfod mwy am BIPBC a'i ardal leol yn cynnwys arfordir a thirweddau hardd, a'r gweithgareddau hamdden ac antur sydd ar gael yn y pecyn briffio hwn. Byddwn yn falch iawn o gael sgwrs bellach gyda chi am y rôl hollbwysig hon, a diolch i chi unwaith eto am eich diddordeb. Rydym wrthi'n adeiladu rhywbeth yma sydd yn mynd i helpu ein system iechyd a gofal a chefnogi ein poblogaeth leol i gael gwell canlyniadau iechyd. Mae'n amser cyffrous iawn i ystyried ymuno â ni.

    Dyfed Edwards, Cadeirydd

  • Please copy this reference number, used to apply: A038195

    Application closing date: 2nd October 2023

    Psychometric Testing and informal one-to-one meetings: TBC

    Stakeholder Groups & Mock Media Panel: 6th November 2023

    Final Interview date: 7th November 2023

    Please ensure you have made a note of the final interview date(s). We recommend that you bookmark this microsite, as any potential updates regarding the role will be posted online.

    Copïwch y cyfeirnod hwn a’i ddefnyddio i ymgeisio: A038195

    Dyddiad cau: 2 Hydref 2023

    Profion Seicometrig a chyfarfodydd un-i-un anffurfiol: I gael ei gadarnhau

    Grwpiau Rhanddeiliaid a Ffug Banel Cyfryngau: wythnos sy’n dechrau 6 Tachwedd 2023

    Panel Cyfweld Ffurfiol: 7 Tachwedd 2023

    Sicrhewch eich bod wedi gwneud nodyn o ddyddiad/dyddiadau’r cyfweliad terfynol. Rydym yn argymell eich bod yn rhoi nod tudalen i’r ficrowefan hon, gan y caiff unrhyw ddiweddariadau posibl ynghylch y rôl eu cyhoeddi ar-lein.

 

Please take note of the reference number found under section “How to apply”. This is needed for us to process any application.

 
 

Share this opportunity in your network:

 

For a confidential discussion on this role please contact:

Michael Earnshaw

+447719 055 971
E-mail

 

Other open positions